Teitl: Rheoliadau Dyfroedd Wyneb ac Adnoddau Dŵr (Dirymiadau Amrywiol) 2015
Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu 10 darn o is-ddeddfwriaeth 'darfodedig' o ganlyniad i'r Her Biwrocratiaeth. Mae'r offerynnau dan sylw yn gweithredu cyfraith yr UE sydd wedi'i disodli neu ei dirymu, sy'n ddiangen oherwydd deddfwriaeth ddiweddarach, neu sy'n ymwneud â gweithdrefnau sy'n gyfyngedig o ran amser sydd bellach wedi darfod.
Gweithdrefn: Negyddol
Materion technegol: craffu
Mae’r Rheoliadau cyfansawdd hyn yn berthnasol i Gymru a Lloegr ac yn ddarostyngedig i'w cymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a dau dŷ Senedd y DU. Felly, nid ystyria Llywodraeth Cymru ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei wneud, na'i osod, yn ddwyieithog.
Rheol Sefydlog 21.2(ix): nad yw'r offeryn wedi’i wneud neu i’w wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg.
Rhinweddau: craffu
Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.
Cynghorwyr Cyfreithiol
Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Mawrth 2015